Mae gan Tina a Leonardo brofiad helaeth o weithio yn y diwydiant lletygarwch ac maent wedi gweithio mewn nifer o wahanol fusnesau masnachol. Croeso mawr i chi drwy gydol eich arhosiad, yn fyr neu’n hir. Mae gennym agwedd gyfeillgar ac anffurfiol ond yn cynnig gwasanaeth proffesiynol.
Yn Leonardo’s, rydym yn croesawu cyplau, teuluoedd a theithwyr busnes neu hamdden.
Mae cyrraedd y Gwesty Bach yn hawdd gan ein bod yn agos at yr M4 ac mae nifer o wasanaethau cludiant cyhoeddus yn yr ardal gan gynnwys Trenau Great Western a gorsaf fws First Cymru. Rydym hefyd yn agos at Faes Awyr Rhyngwladol Abertawe sy’n cysylltu teithiau dros y DU.
Mae gennym naw ystafell wely a phump ohonynt yn edrych dros y môr. Mae brecwast mewn ystafell fwyta gyda thema ganoldirol ac fe geir dewis o frecwast traddodiadol neu gyfandirol.
Gallwch helpu eich hunan i ffrwythau ffres, grawnfwyd, iogwrt a sudd ffrwythau. Hefyd, bydd espresso, cafféllatte ac wrth gwrs te a choffi cyffredin ar gael.


